











Home – Welsh
Noddi Gwobrau GO
Beth am alinio eich sefydliad â gwobrau GO cewch gyfle i arddangos eich brand i rai o’r prynwyr mwyaf dylanwadol ac eithriadol ledled y wlad ym maes caffael.
Cyfleoedd i Noddi2020 Noddwyr y Digwyddiad

Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad Gwobrau GO Cymru 2020/21!
Ar agor i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, Gwobrau GO Cymru yw prif wobrau rhagoriaeth ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae cymryd rhan yng Ngwobrau GO yn rhoi cyfle i’ch sefydliadau godi eich proffil a chael cydnabyddiaeth gan y bobl allweddol hynny sy’n gwneud penderfyniadau sy’n arwain y ffordd ym maes caffael yng Nghymru – ein panel beirniadu Gwobrau GO.
Mae COVID-19 wedi golygu bod caffael yn cael sylw blaenllaw, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd arddangos y gwaith diflino a’r ymdrech sy’n sail i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Bydd y broses ymgeisio ar gyfer 2021 yn agor cyn bo hir.
Rydyn ni wedi mwynhau noddi Procurex a’r Gwobrau GO cysylltiedig dros y blynyddoedd.
We have greatly enjoyed sponsoring Procurex and the associated GO Awards over the years
Absolutely delighted, this project really did focus on what the community required and our supplier required, and showed client departments coming together with the procurement team and SME development – really a team effort. Team Caerphilly at its best.
Rydyn ni’n falch iawn – roedd y prosiect hwn wirioneddol wedi canolbwyntio ar yr hyn roedd y gymuned a’n cyflenwr yn gofyn amdano, gan ddangos adrannau cleientiaid yn dod at ei gilydd gyda’r tîm caffael a datblygu BBaCh. Ymdrech tIm wych. Tîm Caerffili ar ei orau!
Absolutely delighted to be a sponsor for this year’s GO Awards. Our congratulations go out to all the finalists. You are all winners in your own way!
Rydyn ni’n falch iawn o gael bod yn un o noddwyr Gwobrau GO eleni. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae bob un ohonoch yn enillwyr yn eich ffordd eich hun!
Delighted with this, it means so much to us. I would like to dedicate this award to our fabulous staff, who work so hard to support victims of domestic abuse in North Wales – thank you so much.
Rydyn ni wrth ein boddau – mae’n golygu gymaint i ni. Hoffwn gyflwyno’r wobr hon i’n staff gwych sy’n gweithio mor galed i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yng Ngogledd Cymru. Diolch o galon i chi.
We’re absolutely delighted to accept such a prestigious award. Clearly from the judges’ comments it was a tough award to win, so we’re delighted that the work has been recognised.
Rydyn ni’n hynod falch o dderbyn gwobr mor nodedig. O gofio sylwadau’r beirniaid, mae’n amlwg fod hon wedi bod yn wobr anodd iawn ei hennill, felly rydyn ni wrth ein boddau bod y gwaith wedi cael ei gydnabod.
We’re delighted to be able to sponsor the GO Excellence Award, in recognition of the hard working individuals and organisations working in procurement across the public sector in Wales.
Pleser mawr i ni yw gallu noddi Gwobr Rhagoriaeth GO, er mwyn cydnabod y sefydliadau a’r unigolion sy’n gweithio mor ddiwyd a chaled ym maes caffael ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru
Real surprise, fantastic job to the Welsh Team. What makes us particularly proud to receive this award is the jobs it has created in Wales – fantastic result and well done to the team.
Newyddion annisgwyl a braf iawn – gwaith gwych gan y tîm yng Nghymru. Yr hyn rydyn ni’n arbennig o falch ohono wrth dderbyn y wobr hon yw’r swyddi sydd wedi cael eu creu yng Nghymru. Mae hwn yn ganlyniad gwych. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm.
It’s a testament to the hard work that’s gone on with shared services procurement, project management, supply chain, stores and logistics to be able to put a system in place for the district nurses… which has allowed them to deliver improved services for their patients.
Mae’n brawf o’r holl waith caled sydd wedi cael ei wneud o ran caffael cydwasanaethau, rheoli prosiectau, y gadwyn gyflenwi, storfeydd a logisteg er mwyn gallu sefydlu system ar gyfer nyrsys ardal …. sydd wedi’u galluogi i ddarparu gwasanaethau gwell i’w cleifion.
Delighted to be supporting the GO Awards Wales.
Yn falch iawn o gefnogi Gwobrau GO Cymru.
Lyreco is proud to be sponsoring the Procurement Project of the Year category. Well done to the finalists.
Mae Lyreco yn falch o noddi categori Prosiect Caffael y Flwyddyn. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
We’re delighted to be an Event Partner Sponsor for the GO Awards Wales. Now more than ever, with all the challenges being faced, we’re delighted to hear some of the positive stories to celebrate your achievements throughout this year.
Rydyn ni’n falch iawn o fod yn un o Noddwyr y Digwyddiad ar gyfer Gwobrau Go Cymru. Nawr, yn fwy nag erioed, o gofio’r holl heriau rydyn ni’n eu hwynebu, pleser o’r mwyaf yw clywed rhai o’r straeon cadarnhaol i ddathlu eich cyflawniadau gydol y flwyddyn hon.
Absolutely over the moon. It has been a magnificent project to be involved with, the success of which is really down to collaboration and teamwork – team Wales’ approach to it – without which we wouldn’t be able to deliver.
Rydyn ni wrth ein boddau. Mae hwn wedi bod yn brosiect hollol wych i fod yn rhan ohono – a’r ffordd y mae’r tîm yng Nghymru wedi mynd ati, sef drwy gydweithredu a gweithio fel tîm, sy’n gyfrifol am ei lwyddiant. Ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn hebddynt.
“
Mae’r pwysau ar gydweithwyr caffael ar draws nifer o sectorau wedi bod yn aruthrol ac ar ran BiP Solutions a’r beirniaid, mae’n bleser mawr gennyf ddiolch i bawb am eu gwaith diddiwedd dros y misoedd diwethaf.
Mark Roscrow MBE, Prif Feirniad, Gwobrau GO Cymru